Beirniad: Elin Angharad Davies
Disgwylir i'r cystadleuwyr gyfeilio i ddatgeinydd cerdd dant ac i fod yn barod i drawsgyweirio'r ceinciau gosodedig hyd at dôn yn uwch a thôn yn is. Anfonir copi o'r geiriau a'r ddwy gainc osod at sylw'r cystadleuwyr cyn yr Eisteddfod
Gwobrau:
- Cwpan i’w ddal am flwyddyn gan Buddug Stephens, er cof annwyl am ei diweddar ferch, Dr Nicola Stephens a £150 (Buddug Stephens er cof annwyl am ei diweddar ferch, Dr. Nicola Stephens)
- £120 (aelodau Capel Henllan, Henllan Amgoed)
- £90 (aelodau Capel Henllan, Henllan Amgoed)
Bydd yr enillydd yn cael gwahoddiad i fynychu'r cwrs cyfeilio blynyddol dan nawdd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru
Dyddiad cau: 1 Gorffennaf 2026 am ganol dydd