Cyflwynir tlws ac ysgoloriaeth i unigolyn o dan 25 oed sydd yn astudio neu'n dilyn gyrfa ym maes meddygaeth, gofal cymdeithasol neu greu cynnwys digidol yn y Gymraeg
Gwobr: £500
Gofynnir i'r sawl sydd am ymgeisio i uwchlwytho cais gydag enghraifft o'u gwaith, a disgrifiad ohono gydag eglurhad sut y byddai'r unigolyn yn elwa o'r wobr ariannol, ynghyd â'u cynlluniau gyrfa ar gyfer y dyfodol
Dyddiad cau: 1 Mai 2026 am ganol dydd