Celf i groesawu pobl i'r Eisteddfod gyda draig goch

Bydd nifer o bobl yn ymweld â Wrecsam wythnos y Steddfod, gan gynnwys rhai sy'n ymweld am y tro cyntaf. Mae ein prosiect Harddu poblogaidd yn gyfle i chi roi croeso mawr i ymwelwyr yr Eisteddfod trwy addurno'ch ardal.

Rydyn ni wedi paratoi 'Pecyn Harddu' llawn syniadau o sut i fynd ati i ddechrau ar y gwaith.

Unwaith y bydd eich prosiect yn barod i'w osod, rydyn ni’n gofyn y garedig i chi weithio gyda'ch gilydd i osod y gwaith yn ddiogel, gan sicrhau eich bod yn cael caniatâd y cyngor neu'r tirfeddiannwr i osod y gwaith.

Dyddiadau pwysig: 

  • 13 Mehefin - 50 diwrnod i fynd - Harddu'n dechrau!
  • 5 Gorffennaf - Diwrnod tacluso - Diwrnod i baratoi a chael eich ardal yn lan a thaclus cyn dechrau ar y gwaith harddu
  • 5-6 Gorffennaf - Penwythnos Harddu - Cyfle gwych i ddod a'r gymuned at ei gilydd i addurno eich ardal

Ymunwch â'n Pwyllgor Harddu

Rydyn ni'n chwilio am griw gweithgar i ymuno â'n Grŵp Harddu i helpu sicrhau bod pob ardal wedi ei addurno i groesawu’r ŵyl.

Cofrestrwch eich diddordeb isod, a byddwn mewn cysylltiad gyda mwy o wybodaeth.

Enw llawn

Angen ysbrydoliaeth? Edrychwch yn ôl i lwyddiant Llŷn ac Eifionydd yn 2023...