Y Muni

Meinir Wyn Roberts, Lisa Dafydd, Eleri Owen Edwards, Ceri Haf Roberts, Dafydd Wyn Jones, Steffan Prys Roberts, Aled Edwards a John Ieuan Jones sy'n perffomio Requiem enwog Fauré (cyfieithiad Stephen J Williams), dan arweiniad Nia Llewelyn Jones gyda chyfeiliant pumawd llinynnol Cerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru


Eleni mae'n ganmlwyddiant marw'r cyfansoddwr Ffrengig, Gabriel Fauré, a dreuliodd gyfnodau'n ymweld â Chastell Llandŵ ym Mro Morgannwg yn ystod ei flynyddoedd olaf, yng nghwmni Henry Ebsworths a'i ferch, Elsie Swinton.

Ymunwch â ni i nodi'r canmlwyddiant yng nghwmni wyth o gyn-enillwy prif gystadlaethau lleisiol yr Eisteddfod yn awyrgylch arbennig y Muni. Bydd perfformiadau o ddarnau a chaneuon gan Fauré fel rhagarweiniad i'r Requiem ei hun