Y Lle Celf

English translation is available

Ymunwch â'r artist/actifydd Catrin Doyle i glywed am brosiect celf gyfranogol ddaeth â phobl ifanc, gwyddonwyr ac artistiaid at ei gilydd i archwilio bioamrywiaeth a newid hinsawdd yng nghyd-destun yr ardal leol


Gyda’r nod o ysbrydoli a grymuso pobl Pontypridd, cyfunodd y prosiect weithgareddau creu celf gyda gweithredu dros yr amgylchedd.

Bydd Catrin yn rhannu penllanw’r ymchwil - maniffesto natur amlieithog, penwisgoedd carnifal cynaliadwy a ffotograffiaeth bortreadol o bobl ifanc yn y tirlun