Cyflwyno'r Medalau Aur a'r ysgoloriaethau, mewn seremoni arbennig gyda cherddoriaeth fyw.
Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain
Gwobr: Medal Aur am Gelfyddyd Gain (replica) a £5,000 (Ann Lock, er cof am ei rhieni, Captain Gwilym a Mrs Eleanor Owen, Llanbedrog) i’w rannu yn ôl doethineb y detholwyr.
Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio
Gwobr: Medal Aur am Grefft a Dylunio (replica) a £5,000 (£2,500 Arglwydd ac Arglwyddes Abersoch, Mervyn Davies, £1,500 Sioned Mair Williams a Cai Erith Williams, Aberdaron, £1,000 Cymdeithas Brodwaith Cymru) i’w rannu yn ôl doethineb y detholwyr
Ysgoloriaeth Artist Ifanc: £1,500 (John B Jones, Llanbedrog, Cwmni PPM Technology Ltd)
Dyfernir yr ysgoloriaeth i’r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei alluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr.
Y Fedal Aur am Bensaernïaeth
Gwobr: Medal Goffa Alwyn Lloyd (replica), gweithredir ar y cyd â Chymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru
Plac Teilyngdod
Cyflwynir plac teilyngdod i brosiect adnewyddu neu newydd yng Nghymru sydd o ansawdd a safon dylunio uchel, ac nad yw’n costio mwy na £750,000.