Rogue Jones - Dos Bebes (Libertino Records)
Yn dilyn saib hir dychwelodd Rogue Jones, y ddeuawd gŵr a gwraig arbrofol o orllewin Cymru, gydag albwm o synau eang ac amgen. Clarinét, llinynnau, synth, gitarau trydan ac acwstig - mae Dos Bebes yn cyfuno offerynnau, arddulliau a themâu helaeth mewn record llawn ffraethineb a geiriau swreal. Y perthynas rhwng lleisiau Bethan Mai ac Ynyr Morgan Ifan sy’n ganolog i’r record, ar y cyd gyda’u trefniannau sinematig a chyfoethog. Gyda’r band yn disgrifio’r record fel “pop arallfydol”, mae Dos Bebes yn cludo gwrandawyr i fyd arall.