Ymunwch gyda’r Sefydliad Bevan a’i phanel o arbenigwyr i drafod pa gamau dylid eu cymryd i wella mynediad at ofal plant fforddiadwy yng Nghymru ac i edrych ar sut i wella mynediad at ofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae canfod gofal plan sy’n fforddiadwy ac o safon yn hen her i deuluoedd ar draws Cymru. Mae’r heriau yma yn gallu fod hyd yn oed yn fwy i deuluoedd sydd yn ceisio cael mynediad i ofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi arian sylweddol i gynyddu’r ddarpariaeth o ofal plant sydd wedi eu hariannu. Ond gyda gormod o deuluoedd dal yn eu chael hi’n anodd mae’r ddadl dros ddiwygio’r system yn glir.

Siaradwyr: Dr Gwenllian Lansdown Davies (Mudiad Meithrin),  Dr Steffan Evans (Sefydliad Bevan)

Transcript