Heddiw ar Faes yr Eisteddfod, lansiodd yr Eisteddfod Sgwrs i glywed barn a syniadau er mwyn cynllunio’r gwaith ar gyfer y cyfnod nesaf
Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Mae cyfle i bawb rannu sylwadau a syniadau am beth y bidden nhw’n hoffi’i weld dros y blynyddoedd nesaf.”
Bu’n siarad mewn digwyddiad arbennig ar stondin Llywodraeth Cymru ar y Maes yng nghwmni’r Gweinidog Cymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, Mel Owen, comedïwr ac aelod o Banel Llefaru’r Eisteddfod, Michael Strain, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2023 a Helen Prosser, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd, “Nid sgwrs am ‘ddyfodol yr Eisteddfod’ yw hon. Mae ‘na ddyfodol pendant a chlir i’r Eisteddfod, ond yn hytrach mae’n sgwrs am sut rydyn ni’n mowldio’r hyn sydd gennym ni ac yn ei wneud yn berthnasol i Gymru heddiw, gan gadw at ein hegwyddorion craidd o fodoli er lles ein hiaith a’n diwylliant.
“Daw ein strategaeth i ben yn 2025, ac rydyn ni am gynnal sgwrs eang, sy’n gyfle i wyntyllu popeth, ac yna wrth i ni gyrraedd yr hydref, fe fyddwn ni’n edrych yn fanylach ar ein blaenoriaethau strategol ac yn cynnal sgyrsiau mwy dwys ac arbenigol ar bynciau penodol, gyda’r sylwadau rydyn ni’n eu casglu ar hyn o bryd yn bwydo mewn i hyn oll.”
Blaenoriaethau Strategol yr Eisteddfod
- Codi ymwybyddiaeth o’r Eisteddfod fel prif ŵyl ddiwylliannol Cymru, adref ac yn rhyngwladol
- Hyrwyddo’r Gymraeg, yn enwedig ymysg pobl ifanc a dysgwyr
- Dyfnhau ymrwymiad yr Eisteddfod i gymunedau Cymru
- Cryfhau gwytnwch yr Eisteddfod yn ariannol a gweithredol
- Cydweithio’n agos â phartneriaid er mwyn lledaenu cyfoeth ieithyddol a diwylliannol Cymru
- Creu Eisteddfod sydd yn hygyrch ac yn groesawus i bobl o bob oed a chymuned
- Anrhydeddu ein cyfrifoldeb i lesiant cenedlaethau’r dyfodol