Mae’r dyddiau’n mynd yn fyrrach, a’r nosweithiau’n mynd yn oerach – sy’n golygu un peth: mae tymor yr ysbrydion wedi cyrraedd.
Yma yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, rydyn ni wedi ein hamgylchynu gan ganrifoedd o ddiwylliant, barddoniaeth, cerddoriaeth a chwedlau Cymreig – felly rydyn ni wedi hen arfer â straeon ysbrydol a digwyddiadau rhyfedd. O ysbrydion yn dod i'r golwg, i stormydd brawychus, a phethau'n diflannu'n anesboniadwy, pa ffordd well o ddathlu Calan Gaeaf na thrwy archwilio rhai o straeon spŵci’r Eisteddfod lle mae traddodiad Cymreig yn cwrdd â’r goruwchnaturiol?
Dirgelwch y Llythrennau Diflanedig – Eisteddfod Genedlaethol Tregaron, 2022
Hon oedd yr Eisteddfod gyntaf ar ôl Covid ac roedd yr arwydd eiconig coch ‘Eisteddfod’ yn ôl ar y Maes. Ond dros nos, digwyddodd rhywbeth rhyfedd. Diflannodd y llythrennau E, F, O a D! Dechreuodd sibrydion ledaenu wrth i’r wasg, ymwelwyr yr Eisteddfod ac aelodau staff gwestiynu beth oedd wedi digwydd i’r arwydd. Dywedodd rhai eu bod wedi gweld cysgodion amheus ger safle’r llythrennau coll! Jôc oedd hi? Ysbryd? Neu ai bardd o’r gorffennol oedd yn ymweld? Yn ffodus, llwyddodd ein tîm technegol, dan arweiniad Tony Thomas, i greu llythrennau newydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd 2023.
2. Bardd y Niwl – Eisteddfod Glyn Ebwy, 1958
Ydych chi erioed wedi gweld dyn tal sy’n gwisgo het yn crwydro ger Cylch yr Orsedd yn y nos? Efallai mai Bardd y Niwl welsoch chi! Yn ystod Eisteddfod Glyn Ebwy, adroddodd sawl un eu bod wedi gweld dyn tal yn gwisgo fel bardd o’r 19eg ganrif, yn cerdded yn araf ger Cylch yr Orsedd gyda’r nos. Yn ôl y stori, dywedodd un stiward, “efallai mai Taliesin sydd wedi dod yn ôl i farnu’r beirdd.” Hyd heddiw, mae’r trigolion lleol yn sôn am Fardd y Niwl pan fydd niwl y nos yn rholio dros y safle.
3. Y Gadair Ddu – Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1876
O Yr Arwr gan Hedd Wyn i Requiem Mozart, mae’r hanes o gampweithiau’n cael eu hysgrifennu wrth i farwolaeth nesáu yn thema gyfarwydd drwy hanes – fel yn Eisteddfod Wrecsam 1876. Ysgrifennodd y bardd Taliesin o Eifion, Thomas Jones, awdl i gystadlu am Gadair fawreddog yr Eisteddfod, ond bu farw y noson yr anfonodd yr awdl i gael ei beirniadu. Yn ôl y stori, ei eiriau olaf oedd, “Ydyw’r awdl wedi ei danfon yn saff?”
Yn anffodus, ni wnaeth Jones ddarganfod ei fod wedi ennill y Gadair, ac am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod fodern, gosododd yr Eisteddfod liain du ar draws y gadair a chreu Cadair Ddu yn y Pafiliwn i dalu teyrnged i Jones, ac fel symbol o golled.
4. Y Storm 'Ddidrugaredd' – Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr, 1861
Dyma oedd blwyddyn gyntaf yr Eisteddfod ‘fodern’ - yr Eisteddfod fel rydyn ni’n ei hadnabod heddiw - ac ar ôl cyfnod adeiladu dwys, roedd y Maes yn barod ar gyfer agoriad yr ŵyl. Ond yna, daeth trychineb wrth i storm rymus daro’r Maes gan ddinistrio’r Pafiliwn yn llwyr. Ond yn hytrach na phoeni, llwyddodd ysbryd gwladgarol y bardd, Alaw Goch, a phwyllgor yr Eisteddfod, i addasu’r Tŷ’r Farchnad fel lleoliad newydd yn lle’r Pafiliwn.
Gwers y storm? Ni all dim fwrw ysbryd diwylliant Cymru!
5. Sibrydion o Gylch yr Orsedd
Mae'r Orsedd wedi’i gwreiddio’n ddwfn mewn hanes cyfoethog, felly does dim rhyfedd bod mwy nag un stori oruwchnaturiol yn ei hamgylchynu. Yn dilyn sawl Eisteddfod gynnar, dywedodd trigolion lleol bod sibrydion o farddoniaeth Gymraeg i'w clywed o safle’r Maes gyda’r wawr ar benblwydd yr ŵyl. Ai lleisiau’r beirdd o’r gorffennol oeddent? Neu jyst sŵn y gwynt yn chwarae triciau?
Os ydych yn credu’r straeon yma ai peidio, does dim amheuaeth bod gan yr Eisteddfod ei chyfran o straeon arswydus – beth arall fyddech chi’n ei ddisgwyl o draddodiad sy’n dyddio’n ôl i 1176? Oes gennych chi stori spŵci am yr Eisteddfod yr hoffech ei rhannu? Beth am ei rhannu gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol – @eisteddfod ar Instagram a 'Eisteddfod Genedlaethol' ar Facebook.
