Ers ffurfio yn 2016, mae Hyll wedi ennill calonnau nifer iawn o Gymry gyda'u caneuon unigryw a'u geiriau ffraeth am gymeriadau eu tref enedigol, Caerdydd. 

Wedi iddynt arbrofi gyda synau gwahanol ar eu EP 'Mymryn' (2021), mae’r pedwarawd yn mynd yn ôl i'w gwreiddiau indi ar yr albwm, ac yn dilyn sŵn tebyg i'w senglau diweddar 'Hanner Marathon' a 'Mike'. 

Yn gasgliad o ddeg trac, mae'r albwm yn amlygu dylanwadau cerddorol y band sy'n cynnwys Nick Cave, Dinosaur Jr, Pavement, Soccer Mommy a’r Pixies yn ogystal â'r awduron Walt Whitman a Virginia Woolf.