M-Digidol yw prosiect y cerddor Rhun Gwilym, a gafodd gryn lwyddiant cyn ei arddegau, gyda’r band unigryw ‘Y Morgrug’. 

Mae Rhun wedi bod yn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Leeds dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi troi at gynhyrchu cerddoriaeth electroneg. 

Mae’r albwm ‘Swrealaeth’ yn cynnwys danteithion electroneg, sy’n ymestyn o glitch i electronica s breakbeat, ac mae’n cynnwys 13 trac, sy’n ein tywys ar daith unigryw a chyffrous.