Mae Tafod Arian yn gynhyrchiad aml-haenog sy'n cyfuno ffilm ac archif sain gweledol a chlywedol mewn cywaith gerddorol unigryw.
Yn 2024, aeth y cerddor Lleuwen Steffan ar daith o amgylch capeli Cymru gyda ei chyflwyniad o "emynau coll y werin." Yn annisgwyl yn ystod y daith, cafodd hi'r cyfle i glywed, cofnodi a recordio emynau anadnabyddus eraill gan aelodau o'r cyhoedd oedd yn awyddus i'w rhannu. Mae Tafod Arian yn cyfuno'r recordiadau hyn â recordiadau o archifau sain o Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan i greu cerddoriaeth newydd.
Bydd y cerddor amryddawn aml-offerynnog Gethin Elis yn ymuno â Lleuwen, yn ogystal â'r gantores ddihafal o Lydaw, Nolwenn Korbell. Bydd ffilm newydd arbrofol gan Aled Victor yn cael ei chwarae yn ystod y perfformiad.
Trwy Tafod Arian, rydym yn talu teyrnged i leisiau'r gorffennol, gan drwytho eu melodïau a'u geiriau oesol gyda threfniannau cyfoes a dehongliadau o'r galon. Mae'r cynhyrchiad hwn yn rhoi bywyd newydd i recordiadau archif, gan sicrhau bod yr emynau llafar gwlad, a gafodd eu anwylo gan y genedl, yn hawlio eu lle ar lwyfannau Cymru heddiw.
Gadewch i Tafod Arian eich cludo drwy amser, gan bontio'r bwlch rhwng y gorffennol a'r presennol, a'ch trochi ym mhrydferthwch oesol cerddoriaeth gysygredig Cymru. Nid oes toriad yn y sioe.
Mae'r prosiect hwn yn gomisiwn gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig ac Elusen Gwendoline a Margaret Davies.
Bwcio'r sioe
Eisiau bwcio Lleuwen Steffan i berfformio Tafod Arian yn eich eich lleoliad?
Cysylltwch â Rheolwr Prosiect Tafod Arian i archebu ac am fwy o wybodaeth.