Mae'r Eisteddfod yn adnabyddus am ein rhaglen theatr stryd a dawns uchelgeisiol sy'n rhedeg ar draws y Maes drwy gydol yr wythnos.
Peidiwch â cholli ‘Mari Ha’, gwaith cyffrous sy’n cyfuno dawns, dylunio a cherddoriaeth mewn ffordd sy’n torri tir newydd ac yn dathlu’r pŵer sydd gan fyd natur i ddod â phobol ynghyd i greu cymuned a diwylliant, gan y tîm y tu ôl i sioe Qwerin.