Dyma ‘ti ar dy ora’ pan ti’n canu’, ail albwm un o fandiau mwyaf poblogaidd y ddegawd ddiwethaf yng Nghymru, ac mae’n ddatblygiad pendant yn sŵn y band. 

Mae’r band eisoes wedi rhyddhau’r caneuon i gyd, ac hynny ar ddwy EP ar wahan, ‘rhan un’ a ‘rhan dau’. Roedd y band yn awyddus i wneud pethau’n wahanol i’r arfer, ond i drwytho’u cynulleidfa gyda chymaint o ganeuon newydd â phosib.

Bu’r senglau’n llwyddiant mawr, gyda nifer ohonyn nhw’n cael sylw gan restrau chwarae ar Spotify dros y misoedd diwethaf.