Bandstand yng nghanol Parc Ynysangharad, Pontypridd, wedi'i amgylchynnu ganu welyau blodau tymhorol ac ardal suddedig ffufiol ar gyfer cynulleidfa

Mae’r bandstand hyfryd yng nghanol y parc yn un o’r rhain.

Cafodd y bandstand ei ychwanegu fel canolbwynt i’r parc yn 1926, a’r bwriad oedd adlewyrchu’r farn Fictoraidd y dylai gweithgareddau hamdden gynnwys diwylliant a’r celfyddydau.

Mae’r ardal wedi’i amgylchynu gan welyau blodau tymhorol, sy’n ei wneud yn ardal hyfryd i ymlacio a mwynhau perfformiadau.

Daw pobl i eistedd i’r llecyn cylchol suddedig ffurfiol ei naws, ac mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cyngherddau ac yn fan poblogaidd ar gyfer lluniau priodas.

Yn ystod y dydd, bydd amryw o grwpiau ac artistiaid lleol yn perfformio ar y llwyfan, ac wrth iddi nosi, cynhelir cyfres o gyngehrddau golau cannwyll hyfryd, gyda lle i’r gynulleidfa, eistedd, myfyrio a mwynhau ar ddiwedd y dydd.

Mae’r rhain yn cynnwys dathliad pen blwydd Côr Meibion Pendyrus, un o gorau meibion enwocaf y byd, yn gant oed, cyngerdd i gofio’r cyfansoddwr Morfydd Llwyn Owen a fu farw cy  ei phen blwydd yn 27 oed, wedi’i guradu gan Gwenno Morgan ac yn cyflwyno pedair o artistiaid ifanc o dan 27 oed, a dathliad golau-cannwyll o gariad cwiar drwy ganu, cerddoriaeth, dawns a barddoniaeth i nodi canrif ers i E Prosser Rhys ennill y Goron.