Y Lle Celf yw oriel gelf genedlaethol yr Eisteddfod ar y Maes am wythnos bob blwyddyn. Arddangosfa agored, sy’n cynnwys gwaith gan artistiaid profiadol ac enwog ynghyd â gwaith gan artistiaid newydd sy’n cychwyn ar eu gyrfa yma yng Nghymru.
Cyflwynir medal aur am gelfyddyd gain, medal aur am grefft a dylunio a medal aur am bensaernïaeth bob blwyddyn, ac mae’r gwaith buddugol i’w weld yn yr arddangosfa hon.
Mae rhai o enillwyr y gorffennol yn enwau adnabyddus yma yng Nghymru, Bedwyr Williams, Elfyn Lewis a Ceri Richards yn rai o enillwyr y fedal aur am gelfyddyd gain; Ann Catrin Evans, Mari Thomas a Cefyn Burgess wedi ennill y fedal aur am grefft a dylunio.
Gallwch chi hefyd fod yn rhan o un o wobrau Y Lle Celf, Gwobr Josef Herman, Dewis y Bobl. Yn ystod yr wythnos, mae cyfle i chi bleidleisio dros eich hoff waith yn yr arddangosfa agored. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Y Lle Celf am 16.00 brynhawn Sadwrn.
Rhestr o arddangoswyr i ddilyn.