Canolfan gelfyddydol yw Y Muni, wedi'i lleoli mewn adeilad rhestredig Graddfa 2 yng nghanol tref Pontypridd, funudau'n unig o Barc Ynysangharad.
Agorwyd y capel Wesleaidd hardd arddull gothic yn 1895, cyn ei droi'n ganolfan bwysig i'r celfyddydau a cherddoriaeth.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r adeilad wedi'i ail-ddatblygu'n helaeth er mwyn creu canolfan gwbl hygyrch ar gyfer pob math o weithgaeddau a digwyddiadau diwylliannol.
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, cynhelir y rhan fwyaf o'n rowndiau cynderfynol ni yn y ganolfan bwrpasol, a bydd hyn yn cynnig profiad arbennig i'r cystadleuwyr a'r gynulleidfa fel ei gilydd.
Gyda'r nos, cynhelir cyfres o gyngherddau agos-atoch yn yr awditoriwm, sy'n sicr o apelio at gynulleidfa leol a chenedlaethol.
Nos Lun bydd Music Theatre Wales, mewn partneriaeth â'r Eisteddfod, yn perfformio Bwystfilod Aflan, ymateb i bryddest enwog Prosser Rhys, gan roi gwedd newydd ar y cyfan drwy gyfrwng opera a dawns.
Nos Fercher, bydd cerddorfa hŷn Gwasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf a'u gwesteion, Gwilym Bowen Rhys, Angharad Jenkins ac aelodau o VRï yn ein diddanu gyda noson o gerddoriaeth draddodiadol wedi'i drefnu ar gyfer cerddorfa.
Nos Iau, byddwn yn nodi canmlwyddiant marw'r cyfansoddwr Ffrengig, Gabriel Fauré, dreuliodd gyfnodau yma yng Nghymru, gan fwynhau perfformiad o'i Requiem enowog gan rai o'n cyn-enillwyr mwyaf adnabyddus.
Mae mynediad i ddigwyddiadau Y Muni am ddim gyda band garddwrn tocyn Maes, neu gallwch brynu tocyn i'r cyngherddau nos ar y drws.