Outdoor stage with large 'EISTEDDFOD' sign, illuminated by red lights, and trees in the background. Blurred foreground object on the left

Ar gyfer cam nesaf ein taith, rydym angen recriwtio nifer o Ymddiriedolwyr Elusen newydd, i weithredu fel Cyfarwyddwyr Anweithredol ac ymuno â’r Bwrdd Rheoli.

Mae arnom angen unigolion â sgiliau a phrofiad perthnasol mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys adnoddau dynol, marchnata, amrywiaeth a chynhwysiant, rheoli digwyddiadau, rhyngwladol, ac mae angen i bob un sy’n ymgeisio deimlo’n angerddol dros waith yr Eisteddfod.

Fel aelod o'r Bwrdd byddwch yn cyfrannu at lywodraethu'r sefydliad yn dda ac yn gweithio'n effeithiol gydag aelodau presennol ein Bwrdd, y Tîm Gweithredol ac amrywiol bartneriaid creadigol i'n helpu i wireddu ein gweledigaeth artistig a chynllunio strategaeth glir i’r dyfodol. 

Os credwch mai chi yw'r unigolyn honno/hwnnw/hynny, a'ch bod yn rhannu ein gwerthoedd, ein delfrydau a'n dyheadau, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. 

Bydd yn ofynnol i chi fedru cyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg, ac rydym yn annog ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir a chymuned. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan fenywod ac unigolion o blith cymunedau du a lleiafrifol ethnig a grwpiau eraill a dangynrychiolir. 

Mae’r rôl yn ddi-dal ond telir cyfraniad tuag at gostau teithio a llety.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00 (hanner dydd), ddydd Gwener, 18 Gorffennaf, 2025. 

Am drafodaeth anffurfiol ac i ymgeisio, cysylltwch â Betsan Moses, e-bost - betsan@eisteddfod.cymru. Wrth wneud cais, dylech nodi ‘Cais Ymddiriedolwr’ yn y llinell pwnc, ac atodwch gopi o'ch CV a llythyr eglurhaol. 

Caiff pob cais ei gydnabod.

Manylion rôl ymddiriedolwyr yr Eisteddfod Genedlaethol Lawrlwytho