Banner Eisteddfod

Rydyn ni'n chwilio am swyddogion i'r Pwyllgor Gwaith, aelodau a swyddogion ar gyfer ein pwyllgorau amrywiol a thîm i weithio ar draws y dalgylch, sy'n cynnwys de Ceredigion a rhannau o Sir Gaerfyrddin i godi ymwybyddiaeth ac arian er mwyn sicrhau bod y prosiect a'r Eisteddfod ei hun yn llwyddiannus. Ymunwch â'r tîm!

Mae croeso i chi enwebu eich hun neu rywun arall fel swyddog ar gyfer y Pwyllgor Gwaith neu fel hwylusydd ar gyfer un o'n pwyllgorau eraill. Ticiwch y blwch perthnasol a chwblhewch y ffurflen enwebu.

Y dyddiad cau i enwebu yw 17:00, dydd Gwener 19 Hydref.

Eisiau sgwrs neu ragor o wybodaeth cyn mynd amdani?  Cysylltwch yma!

  • Cyfredol Pwyllgor Gwaith
  • Diwylliant
  • Strategol
  • Eich manylion
  • Cwblhau
Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yw wyneb cyhoeddus yr Eisteddfod yn lleol, gan arwain y prosiect ar ran y gwirfoddolwyr lleol. Yn ogystal â chadeirio'r pwyllgor ei hun, mae'r Cadeirydd hefyd yn cynrychioli'r ŵyl ar amryw o bwyllgorau a grwpiau eraill yn ystod cyfnod y prosiect
Mae'r Is-gadeirydd Strategol yn cadeirio'r Bwrdd Strategol lleol, sy'n cynnwys elfennau fel gwirfoddoli, datblygu cysylltiadau a gwaith cymunedol, marchnata, harddu cymunedol, a phrofiad ymwelwyr, gwaddol ayb, ac yn cynrychioli'r rhain ar y Pwyllgor Gwaith
Mae'r Is-gadeirydd Diwylliannol yn cadeirio'r Bwrdd Diwylliannol lleol, sy'n cynnwys elfennau cystadleuol (gan gynnwys y testunau) ac artistig yr ŵyl (gan gynnwys amserlenni'r is-bafiliynau ar draws y Maes), gan gynrychioli'r elfennau hyn ar y Pwyllgor Gwaith
Cadeirydd y Gronfa Leol sy'n gyfrifol am y gwaith o godi arian ac ymwybyddiaeth ar draws yr ardal ac yn cadeirio Bwrdd y Gronfa Leol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r pwyllgorau targed lleol, ac yna'n adrodd ar  godi arian ac ymwybyddiaeth yn y Pwyllgor Gwaith
Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith sy'n gyfrifol am gofnodi a galw'r pwyllgorau drwy gydol y flwyddyn, a chadw cofnod bod pob targed ac phenderfyniad yn cael eu gweithredu a'u gwireddu'n brydlon
Disgrifiad swydd: Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Lawrlwytho
Disgrifiad swydd: Cadeirydd y Gronfa Leol Lawrlwytho
Disgrifiad swydd: Is-gadeirydd Strategol y Pwyllgor Gwaith Lawrlwytho
Disgrifiad swydd: Is-gadeirydd Diwylliannol y Pwyllgor Gwaith Lawrlwytho
Disgrifiad swydd: Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith Lawrlwytho