Croeso

Efallai wythnos yr Eisteddfod fydd y tro cyntaf i bobl ymweld â'ch ardal, cyfle da i roi argraff dda i ddenu pobl nol yn y dyfodol. 

Rydyn ni wedi paratoi 'Pecyn Harddu' llawn syniadau o sut i fynd ati i ddechrau ar y gwaith.

Unwaith y bydd eich prosiect yn barod i'w osod, rydyn ni’n gofyn y garedig i chi weithio gyda'ch gilydd i osod y gwaith yn ddiogel, gan sicrhau eich bod yn cael caniatâd y cyngor neu'r tirfeddiannwr i osod y gwaith.

Bydd yr Eisteddfod yn darparu tair baner finyl wedi'u brandio gyda eyelets i bob ardal codi arian. Bydd y rhain ar gael i chi osod i arddangos yn eich ardal leol i hyrwyddo'r Eisteddfod.   

Ymunwch â'n Grŵp Harddu

Rydyn ni'n chwilio am griw gweithgar i ymuno â'n Grŵp Harddu i helpu sicrhau bod pob ardal wedi ei addurno i groesawu’r ŵyl.

Cofrestrwch eich diddordeb isod, a byddwn mewn cysylltiad efo mwy o wybodaeth. 

Mae'r Cyngor yn anelu at ateb ymholiadau o fewn 7 diwrnod gwaith.

I gynorthwyo'r broses, maent yn gofyn yn garedig i chi lenwi'r ffurflen yn llawn gan ychwanegu delweddau/lluniau o'r gwaith.

Efallai bydd rhai sy'n edrych i osod darnau maint mwy o waith yn aros ychydig yn hirach am ymateb, oherwydd y drafodaeth ychwanegol sydd ei hangen gyda Phriffyrdd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch gyda lliwen@eisteddfod.cymru

Gweithio ar brosiect Harddu? Rhowch wybod i ni lle bydd eich gwaith wedi ei arddangos! 

Dilyn ôl-troed llwyddiant Harddu Llŷn ac Eifionydd llynedd...

Dyddiadau pwysig: 

  • 5 Gorffennaf - Diwrnod tacluso - Diwrnod i baratoi a chael eich ardal yn lan a taclus cyn dechrau ar y gwaith harddu
  • 6 - 7 Gorffennaf - Penwythnos Harddu - Cyfle gwych i ddod a'r gymuned at ei gilydd i addurno eich ardal.