Tŷ Gwerin

Cyfle i glywed y chwaraewr ffidl, Aneirin Jones,o'r band Vrï yn perfformio dan ei enw ei hun am y tro cyntaf. Gyda chyfeiliant gan Patrick Rimes (piano) a Sam Robinson (bodhrán), bydd yn rhannu rhai o alawon gwerin poblogaidd Cymru

O Bontardawe yn wreiddiol ond yn awr wedi sefydlu yng Nghaerdydd, mae Aneirin yn un o ffidlwyr mwyaf cyffroes Cymru. Mae’n aelod o’r triawd Vrï, ac wedi bod yn ffodus iawn i chwarae ar sawl llwyfan rhyngwladol: Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient, Celtic Colours yn Nova Scotia, Celtic Connections a FAI yn New Orleans i enwi rhai.

Yn ei arddegau cafodd fudd mawr o gyrsiau gwerin Trac Cymru, yn enwedig cwrs preswyl ieuenctid Gwerin Gwallgo ac mae bellach wedi bod yn diwtor ffidl ei hun ar y cwrs yn fwy diweddar. Astudiodd gerddoriaeth draddodiadol yn y Royal Conservatoire of Scotland yn Glasgow a chael ei addysgu gan rai o gewri sin werin yr Alban cyn dychwelyd i’w famwlad.

Dysgodd y rhan fwyaf o’r alawon mewn sesiynau gwerin lleol yng Nghwmtawe, lle ddechreuodd ei daith gyda cherddoriaeth draddodiadol pan oedd yn blentyn