Y Bandstand

Dathliad golau-cannwyll o gariad cwiar drwy ganu, cerddoriaeth, dawns a barddoniaeth i nodi canrif ers i E Prosser Rhys ennill y Goron

Can mlynedd ers i E Prosser Rhys ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-Pŵl gyda’i bryddest feiddgar am ryw a charwriaeth hoyw, ‘Atgof’, mae’n bleser gan Mas ar y Maes gyflwyno’r dathliad golau-canwyll hwn o gariad cwiar drwy ganu, cerddoriaeth, dawns a barddoniaeth.

Artistiaid: Gruffudd Antur, Gavin Ashcroft, Cantorion Traws Caerdydd, Dylan Cernyw Sara Huws, Miriam Isaac, Melda Lois, Nia Morais, Steffan Prys Roberts, Lloyd Steele, Jordan Price Williams, Meilir Williams, Osian Huw Williams

Curadur: Meilir Williams