Tŷ Gwerin
Dewch i wrando ar sain bwerus band o gerddorion gwerin ifanc sy'n rhoi bywyd newydd i hen gerddoriaeth Gymreig
Mae’r band yn arbenigo mewn adfywio cerddoriaeth a fu'n gudd mewn llawysgrifau llychlyd hen lyfrgell, gan eu trawsnewid yn eu ffordd ddihafal eu hunain i fod yn gampweithiau egnïol ac unigryw.
Mae'r criw o 12 aelod yn cynnwys offerynnau megis telynau teires, bagbibau a phedwar clocsiwr.
Dechreuodd y band fel Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru. Bwriad y prosiect gan Trac Cymru oedd hyfforddi cerddorion ifanc 18-25 oed mewn sgiliau cerddorol a fyddai'n eu hysgogi i ddilyn gyrfa fel cerddorion gwerin proffesiynol, yn ogystal â chynrychioli cerddoriaeth werin Gymreig ar lwyfannau mawr