Llwyfan y Maes

Ers rhyddhau eu CD cyntaf yn 2004, mae cerddoriaeth felodig y brodyr Ynyr ac Eurig Roberts wedi cael ei chwarae'n gyson ar donfeddi radio ac ar deledu yma yng Nghymru a thros y byd

Mae eu sŵn unigryw wedi eu galluogi nhw i berfformio ym mhrif wyliau gwerinol Prydain, o’r Green Man Festival, Bannau Brycheiniog i’r Celtic Connections, Glasgow.

Fe enillodd Brigyn wobr am y gân orau yng Ngŵyl Ban Geltaidd 2011 ac maent yn enwog am eu fersiwn unigryw o 'Hallelujah' gan Leonard Cohen a nifer fawr o glasuron cyfoes Cymraeg

Facebook X Youtube