Tŷ Gwerin

Cyfle i glywed y band gwerin pwerus sydd wedi ennill llu o wobrau yn creu hafoc gyda'ch clustiau a'ch traed

Mae Calan, a ffurfiwyd wedi i bum cerddor o Gymru gyfarfod ar gwrs cerddoriaeth werin yn Sweden, wedi eu disgrifio fel "storming juggernaut of cool-Cymru-with-attitude power-folk with a jaw-dropping repertoire".

Daethant i fri rhyngwladol yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient yn Llydaw lle daethant yn ddiweddarach y band cyntaf o Gymru i ennill Gwobr y Band Rhyngwladol. Fis Ebrill 2019 fe wnaethon nhw ennill y Band Gorau yng Ngwobrau Gwerin cyntaf Cymru.

Calan yw: Bethan Rhiannon (acordion, llais, clocsio); Patrick Rimes (ffidil, pibgorn); Angharad Jenkins (ffidil); Sam Humphreys (gitâr); a Shelley Musker-Turner (telyn)

Facebook