Tŷ Gwerin
Cymysgedd o gerddoriaeth draddodiadol a gwreiddiol gan fand sy'n perfformio mewn dull cyfoes ond sydd wedi'i wreiddio yn iaith a thraddodiad canu a dawnsio Cymru
Mae Carreg Lafar yn defnyddio offerynnau traddodiadol a chyfoes gan gynnwys ffidil, ffliwt, pibgorn, pibau a gitâr ynghyd â lleisiau deinamig.
Mae'r band wedi bod yn rhan o'r sin gerddoriaeth draddodiadol Gymreig ers 1995 ac wedi teithio o amgylch y DU, Ewrop a Gogledd America, gan berfformio mewn gwyliau fel Festival Interceltique de Lorient, Celtic Colours Nova Scotia, Festival Interceltico de Aviles a Piping Live! yn Glasgow.
Maen nhw wedi rhyddhau pedwar albwm gyda Recordiau Sain, y mwyaf diweddar yw 'Aur' yn 2017