Llwyfan y Maes

Ffurfiwyd Catsgam yn ne ddwyrain Cymru yn 1997 pan ddaeth y pum aelod at ei gilydd i greu sain roc melodig wedi ei adeiladu ar ganeuon cadarn Rhys Harries a llais arbennig Catrin Brooks

Dydy cael grŵp o ffrindiau yn dod at ei gilydd i chwarae offerynnau a chyfansoddi ambell i gân ddim yn beth anarferol. Yr hyn sy’n gwneud Catsgam yn anarferol, os nad yn unigryw, yw bod y band yn dal gyda’i gilydd 27 mlynedd yn ddiweddarach, yn dal i chwarae’n fyw, wedi rhyddhau pum albwm, ac yn dal yn ffrindiau!

Recordiwyd pedwar albwm ar label Fflach ac yn Hydref 2018, rhyddhawyd 'Sgam' – casgliad o’u caneuon mwyaf poblogaidd