Encore

Cyfle i wrando ar rai o gyn-enillwyr lleol cystadleuaeth Cerddor Ifanc blynyddol Côr Meibion ​​Treorci yn perfformio cerddoriaeth glasurol a chyfoes

Ers 2006, mae'r côr meibion wedi trefnu a chynnal cystadleuaeth Cerddor Ifanc i ddisgyblion ysgol lleol Rhondda Cynon Taf. Yn flynyddol, mae'r beirniaid yn dewis y canwr a'r offerynnwr gorau o blith nifer fawr o ymgeiswyr mewn cyfres o rowndiau yn yr ysgolion lleol cyn iddynt ymgiprys am y brif wobr mewn rownd derfynol arbennig yng nghyngerdd blynyddol y Côr ar ddydd Gwener y Groglith yn theatr y Parc a'r Dâr.

Y perfformwyr lleisiol i gynnwys:
Emily Richards (enillydd 2015) a Frances Taylor (enillydd 2016 a 2018)

Y perfformwyr offerynnol i gynnwys:
Charlotte Lewis (enillydd 2009 a 2010), Carys Lewis (enillydd 2014), Grace Angharad Jones (enillydd 2015 a 2016) a Twm-Fon Ellas Pike (enillydd 2019)