Llwyfan y Maes

Gyda repertoire eang sy’n cynnwys caneuon gwerin, gweithiau clasurol a cherddoriaeth gyfoes ac ysgafn mae'r côr lleol hwn yn dathlu 50 mlynedd ers ei ffurfio eleni

Maent yn cynnal rhaglen lawn o weithgareddau a chyngherddau i ddathlu'r pen-blwydd.

Ffurfiwyd Côr Godre’r Garth yn 1974 gyda’r nod o hybu’r Gymraeg yn ardal Pontypridd. Côr cymysg ydyn nhw gydag oddeutu 50 o aelodau, sy'n ymarfer ym mhentref Efail Isaf bob nos Sul. Eu harweinydd yw Steffan Watkins a'u cyfeilydd yw Branwen Evans. Maent yn mwynhau cystadlu a pherfformio ac wedi teithio’n eang dros y blynyddoedd.

Facebook