Pa ffordd well i ddathlu pen blwydd un o gorau blaenaf Cymru na chyda gwledd amrywiol o ganeuon cyfarwydd, a hynny mewn awyrgylch hudolus golau cannwyll wrth i'r haul fachlud?
Sefydlwyd Côr Meibion Pendyrus ym 1924 yn Tylorstown yn y cwm byd-enwog Cwm Rhondda. Mae'n dathlu ei benblwydd yn ganmlwyddiant eleni gyda chalendr llawn o berfformiadau. Dyma gôr sy'n llenwi Rhondda Fach gyda balchder, ac un sydd wedi cyfrannu'n helaeth i ddiwylliant a hanes unigryw y fro dros y blynyddoedd
Prês Poced sy’n cyfeilio i'r Côr, grŵp o offerynwyr talentog, a ffrindiau gydol oes o bob cwr o Gymru a sefydlwyd gan y cerddor Dewi Griffiths i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol 2008 gan ddod i'r brig. Maen nhw nawr yn perfformio’n flynyddol yn seremonïau'r Eisteddfod