Pafiliwn

Cystadleuaeth newydd i unrhyw gyfuniad o leisiau gyflwyno dau ddarn cyferbyniol hunanddewisiad hyd at wyth munud, i annog a chyflwyno corau newydd, rhai sydd wedi'u ffurfio'n arbennig, corau cymunedol neu gorau sydd heb gystadlu o'r blaen i gystadlu yn yr Eisteddfod

Gwobrau:

  • £500 (Côr Godre'r Garth er cof am aelodau annwyl a gollwyd)
  • £300 (Côr Philharmonic Caerdydd i nodi bod y côr wedi cychwyn fel Côr Eisteddfod Caerdydd, 1978, wrth i'r côr ddod i ben)
  • £200 (er cof am Charles a Margaret Morris, Trecynon, gan Mair Treharne a Huw Morris a'u teuluoedd)

Beirniaid: Stephen Jackson, Katie Thomas a Lyn Davies