Maes D

Cystadlaethau grŵp gwerin lleisiol neu offerynnol, unawd agored, llefaru unigol agored a sgwrs rhwng dau (Mynediad a Chanolradd)


Unawd agored

Hunanddewisiad hyd at 4 munud

Gwobrau:

  • £60 (Merched y Wawr Casnewydd a'r Cylch, gydag edmygedd tuag at bob un ohonoch sy'n dysgu'r iaith am eich brwdfrydedd a'ch ymroddiad)
  • £30
  • £20

Beirniad: Lloyd Macey


Llefaru unigol agored

'Y Gors', Wendy Evans, cerdd gan enillydd Cadair y Dysgwyr 2022

Gwobrau:

  • £60 (Merched y Wawr Cangen Tonysguboriau a'r Cylch, er cof am y dysgwyr brwdfrydig a sefydlodd y gangen)
  • £30 (Roy Noble, i ddathlu pawb sy'n gyfforddus ac wedi ymlacio wrth gyflwyno a chynnwys neges yn eich iaith newydd)
  • £20 (Roy Noble, i ddathlu pawb sy'n gyfforddus ac wedi ymlacio wrth gyflwyno a chynnwys neges yn eich iaith newydd)

Beirniad: Elin Prys-Davies


Sgwrs rhwng dau

Lefel Mynediad | Sylfaen

Perfformio deialog o unrhyw lyfr cwrs

Gwobrau:

  • £100 (Maldwyn Pate a Delyth Curry, er cof am eu rhieni, Marjorie a Vincent Pate)
  • £60 (Maldwyn Pate a Delyth Curry, er cof am eu rhieni, Marjorie Pate a Vincent Pate)
  • £40 (Maldwyn Pate a Delyth Curry, er cof am eu rhieni, Marjorie Pate a Vincent Pate)

Beirniad: Elin Prys-Davies


Sgwrs rhwng dau

Lefel Canolradd | Uwch

Sgwrs ar drên neu fws, hyd at 3 munud

Gwobrau:

  • £100 (Heulwen Jones, er cof am fy rhieni, Parch a Mrs MJ Mainwaring, fu'n weithgar dros sefydlu Ysgol Gymraeg Tonyrefail)
  • £60 (Roy Noble)
  • £40 (Roy Noble)

Beirniad: Elin Prys-Davies