Tŷ Gwerin

Dewch i fwynhau llais tyner Gareth Bonello a'i dechneg gelfydd ar y gitâr acwstig. Yn perfformio dan yr enw 'The Gentle Good' mae ei albwm diweddaraf yn dehongli hen ganeuon gwerin Cymreig o'r newydd wrth fyfyrio ar dristwch y 2020au


Mae albwm diweddara' 'The Gentle Good' wedi derbyn clod a sylw ers ei ryddhau fis Medi'r llynedd.

Mae'r trefniannau'n syml ac yn wasgaredig a daw llawer o'r caneuon o archif y Llyfrgell Genedlaethol, a chasgliad Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn enwedig. Mae cynulleidfaoedd wedi bod yn mwyhau prydferthwch prudd yr hen ganeuon wrth i Gareth deithio gyda'r albwm dros y flwyddyn ddiwethaf. Cafodd 'Galargan' ei restru ymysg albymau gwerin gorau 2023 gan y Guardian