Caffi Maes B

Ymunwch â rhai o aelodau Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd wrth iddynt ailymweld â rhai o ganeuon gwefreiddiol y sioe roc 'Deffro'r Gwanwyn' sy'n bortread gonest o wewyr a gorfoledd yr arddegau

Dyma sioe gyntaf y cwmni ar ôl ail-lansio llynedd yn Theatr y Werin, Aberystwyth. Addasiad Daf James o'r sioe gerdd 'Spring Awakening' a agorodd yn Broadway yn 2006 ac a gynhyrchwyd gyntaf yn y Gymraeg gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2010.

Cyfarwyddwyd cynhyrchiad Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd ym Medi 2023 gan Angharad Lee. Kiefer Jones a Nathan Jones oedd y cyfarwyddwyr cerdd.

Mae aelodau'r cwmni theatr rhwng 16 a 25 mlwydd oed ac yn dod o bob cwr o Gymru