Tŷ Gwerin
Cyfle i wrando ar ddehongliadau newydd o ganeuon o gasgliad Maria Jane Williams o'r 19eg ganrif, 'Ancient National Airs of Gwent and Morganwg', gyda Dionne Bennett, Stacey Blythe, Gareth Bonello, Rhian Evan-Jones a Bethan Nia
Mae'r casgliad yn adnabyddus am iddo ennill gwobr gan Arglwyddes Llanofer ar gyfer y casgliad gorau o alawon Cymreig yn Eisteddfod y Fenni, 1838. Mae llawer o’r caneuon yn gyfarwydd i ddilynwyr traddodiadau gwerin a chlasurol Cymru, ond mae digon o berlau llai adnabyddus yn y casgliad hefyd.
Mae'r cast gwych o gerddorion wedi dod at ei gilydd yn arbennig ar gyfer y sesiwn unigryw hwn a byddant yn perfformio’r deunydd newydd ac yn trafod y casgliad a’u trefniannau