Y Muni

Ymunwch â cherddorfa hŷn y Gwasanaeth a'u gwesteion, Gwilym Bowen Rees, Angharad Jenkins ac aelodau o VRï am noson o gerddoriaeth draddodiadol wedi'i threfnu ar gyfer cerddorfa


Mae'r gerddoriaeth yn cynnwys themâu sy'n gysylltiedig â'r ardal, ynghyd ag ambell alaw adnabyddus, gan gynnwys clasuron fel 'Ym Mhontypridd mae'n Nghariad' a 'Cwm Rhondda'.

Bydd y gerddorfa hefyd yn performio pedwar emyn gan Morfydd Llwyn Owen, a hynny am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Staff y Gwasanaeth sy'n gyfrifol am y trefniannau, felly dewch i gefnogi a mwynhau noson o gerddoriaeth arbennig yng nghanolfan hyfryd y Muni