Y Lle Celf

Yr artist/actifydd Catrin Doyle a fforwm ieuenctid NATURponty sy'n cynnal gweithdy argraffu gyda phlanhigion bioamrywiol o dirlun a chynefin cymoedd Rhondda, Cynon a Taf

Byddwn yn argraffu a labelu’r rhywogaethau gyda’u henwau Cymraeg, gan ddathlu’r tirwedd lle mae bioamrywiaeth yn ffynnu, tirwedd sy’n glytwaith cymysg o’r cyn-ddiwydiannol, trefol a chynefinoedd cilfach a grëwyd gan y tipiau gwastraff glo