YMa

"Gwlad? Dweda i wrthoch chi beth mae gwlad yn ei olygu i mi..."

Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen sy’n cyflwyno 'Gwlad! Gwlad!', cynhyrchiad newydd sy’n cynnwys Lansiad, ei menter hyfforddi ar gyfer oedolion 18 i 25 oed sy'n dyheu am yrfa broffesiynol yn y celfyddydau perfformio.

Mae 'Gwlad! Gwlad!' yn wrthdrawiad cynhyrfus o dir, cân, pobl ac amser ar daith swreal i galon cenedlaetholdeb.

Ysgrifennwyd y cynhyrchiad gan yr awdur arobryn Chris Harris, a'r cyfarwyddwr yw Harvey Evans, cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Stacey Blythe, a’r cynhyrchydd yw Pedro Lloyd Gardiner. Mae 'Gwlad! Gwlad!' yn archwilio etifeddiaeth ein hanthem genedlaethol drwy adrodd cyfres o straeon pwerus sy'n ysgogi'r meddwl.

Dywed yr ymddiriedolaeth ei fod yn fraint cael cynnal perfformiad cyntaf y cynhyrchiad newydd sbon hwn ym Mhontypridd, lle cyfansoddwyd yr anthem genedlaethol gan y tad a'r mab, Evan a James James ym 1856.

Ariennir y prosiect hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac fe'i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

Facebook