Pafiliwn

Perfformiad cyntaf o waith cerddorol newydd gan Eilir Owen Griffiths, wedi'i osod i gerddi comisiwn gan y beirdd lleol, Aneirin Karadog, Delwyn Siôn, Christine James a Mari George, wedi'u hysbrydoli gan yr anthem genedlaethol

Dathliad o gampwaith Evan a James James fel diweddglo angerddol i raglen wythnos y Pafiliwn eleni. Perfformiad anthemig, dan arweiniad Eilir ei hun, gyda grŵp siambr o chwaraewyr o Sinffonia Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ynghyd ag ensemble o gantorion amryddawn i orffen yr wythnos ar nodyn uchel!