Cymdeithasau

Cyfle i glywed am brosiect y mudiad yn y De-ddwyrain a De Powys, 'Gwlad Newydd y Merched' - dymuniad yr aelodau oedd dathlu a chydnabod cyfraniad menywod i sefydlu addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf ac i'w lwyddiant

Sonnir am y gweithdai i ddatblygu ein sgiliau, ymweliadau ag ysgolion uwchradd a chynradd yr ardal gyda gweithdai gwerin a siaradwyr nodedig. Dangosir mor bwysig yw i fenywod ddathlu a chofnodi eu hanes. Llwyddwyd i wneud hyn gyda grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol