Tŷ Gwerin

Flwyddyn ers rhyddhau eu halbwm cyntaf 'Tocyn Unffordd i Lawenydd', dyma gyfle i glywed yr uchafbwyntiau yn y cnawd, yn ogystal ag ambell i gân newydd

Yn gasgliad o ganeuon gwreiddiol a gwerin ar eu newydd wedd, ânt â chi ar wibdaith o Dryweryn i Drawsfynydd, drwy Eifionydd, Llŷn ac Ynys Enlli, cyn belled â Rio a 42nd Street, Efrog Newydd