Cymdeithasau

English translation is available

Cyflawnwyd gorchest gan fenywod Cymru yn 1923–24 pan lwyddwyd i gasglu 390,296 llofnod ar ddeiseb heddwch i’w hanfon at fenywod America yn gofyn am eu cefnogaeth i "fyd di-ryfel yn dreftadaeth dragwyddol". Ond sut aethpwyd ati a phwy oedd y menywod arloesol a phenderfynol hyn?


A pham nad ydym yn gwybod mwy amdanynt? Bellach mae tipyn yn hysbys am y tair, Annie, Mary ac Eluned, a arweiniodd y ddirprwyaeth heddwch ond beth am y llu trefnwyr lleol eraill? Bydd y sgwrs hon yn ceisio amlygu eu cefndiroedd a’u rhwydweithiau ac yn trafod tair menyw arall a fu’n allweddol bwysig yn yr ymgyrch hon