Cymdeithasau

English translation is available

Sut i sicrhau bod sefydliadau’n cydymffurfio’n llawn â safonau’r Gymraeg, a beth y gellir ei wneud i hyrwyddo a hwyluso’r ddarpariaeth a gynigir yn well?

Bydd Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, yn cyflwyno dull cyd-reoleiddio’r Comisiynydd i’r dyfodol ac yn amlinellu’r weledigaeth o weithredu yn fwy effeithiol drwy ganolbwyntio ar ddeilliannau yn hytrach na phrosesau er mwyn cynyddu defnydd.

O dan gadeiryddiaeth Betsan Powys bydd yna drafodaeth banel yn dilyn yn cynnwys Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, a chynrychiolwyr sefydliadau cyhoeddus