Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Ymunwch ag arbenigwyr o Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ddarganfod mwy am foddion digidol a beth mae’n ei olygu i’ch gofal yng Nghymru. Bydd y fferyllydd Jodine Fec yn esbonio sut mae presgripsiynau electronig yn gweithio a beth yw’r manteision wrth iddyn nhw ddod ar gael yn eich meddygfa a’ch fferyllfa leol.
Bydd y sesiwn hefyd yn rhoi cipolwg ar ddyfodol moddion digidol mewn ysbytai wrth i systemau digidol ddisodli siartiau meddyginiaethau a phresgripsiynau papur. Bydd Lesley Jones, prif nyrs a’r arweinydd ar ragnodi electronig gofal eilaidd a gweinyddu meddyginiaethau, yn siarad am y chwyldro mewn moddion digidol sydd ar fin cyrraedd wardiau ysbyty