Cymdeithasau

Hoffai Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd wybod mwy am brofiadau pobl o ddefnyddio’r Gymraeg yn y Cymoedd. Beth yw’r heriau o ran defnyddio’r Gymraeg yn yr ardaloedd hyn, a beth yw’r cyfleoedd sy’n codi o’i defnyddio? Pa mor hawdd yw hi i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn yr ardaloedd hyn?

Mae hyn yn rhan o waith ehangach yr ydym yn ei wneud i edrych ar y cyfleoedd a'r heriau sydd ynghlwm wrth hybu a datblygu'r Gymraeg mewn ardaloedd lle mae llai o bobl yn ei siarad.

Rydym yn annog eisteddfodwyr i alw heibio a chwrdd ag Aelodau’r Pwyllgor i drafod eu safbwyntiau a’u barn am ddefnyddio’r Gymraeg yng nghymoedd y de.