Cymdeithasau
Elen Ifan a Joe O'Connell sy'n cyflwyno canfyddiadau ymchwil, gyda'r artistiaid sy'n ymwneud â'r prosiect yn trafod sut mae'r materion hyn yn effeithio ar eu creadigrwydd a'u gyrfa
Ers mis Mai 2023, mae academyddion o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn siarad ag artistiaid o Gymru a Seland Newydd sy’n defnyddio’r Gymraeg a’r iaith Māori yn eu gwaith. Maent wedi dod o hyd i bwyntiau cyswllt rhwng eu profiadau, yn enwedig o ran y ffyrdd y mae eu defnydd o iaith yn effeithio ar eu hymdeimlad o hunaniaeth a’u cyfleoedd i gydweithio yn eu gwledydd cartref a thu hwnt