Y Lle Celf

Sharon Morgan (Martha Jac a Sianco, Tair Chwaer, Gangs of London) a’i merch Saran Morgan (Y Syrcas, Bang, Amgueddfa) sy'n cyflwyno a thrafod detholiadau o ddramâu Sharon sy’n ymddangos yn y gyfrol Dramâu’r Rhosys Cochion

Mae’r tair drama, Ede Hud, Holl Liwie’r Enfys a Trafaelu Ar Y Trên Glas, sydd wedi eu gwreiddio yn Nyffryn Aman, Llandyfaelog a Caerdydd, yn cwmpasu hanes teuluol o’r ganrif ddiwethaf, chwyldro’r chwedegau, a’r hyn sy’n digwydd y tu mewn i ben menyw wrth wynebu menopôs, galar a henaint. Bydd sesiwn cwestiwn ac ateb ar y diwedd