Caffi Maes B

Caneuon llawn hiraeth gan Rhys Dafis sy'n archwilio themâu fel dyhead, ymddieithriad, iechyd meddwl a'r gwrthdaro sy'n codi o fod yn perthyn i ddiwylliant lleiafrifol

Mae Rhys Dafis o orllewin Cymru ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Rhyddhaodd ei sengl gyntaf, 'Eli Haul', ar ddiwedd 2022. Wedi gigio ar ei ben ei hun yn ysbeidiol am ychydig flynyddoedd, mae bellach yn perfformio'i ganeuon roc gwerin gyda band o gerddorion amryddawn

Instagram Youtube