Gwobrau: Tlws Dysgwr y Flwyddyn (Menter Iaith Rhondda Cynon Taf) a £300 (Lowri Jones a Rhuanedd Richards, i ddiolch i'w rhieni am fynd ati i ddysgu Cymraeg fel oedolion, a rhoi addysg Gymraeg i ni, a diolch i bawb arall sydd wedi dysgu'r iaith, neu sicrhau bod eu plant yn cael addysg Gymraeg er nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg eu hunain) i’r enillydd.
Bydd y rheini yn y rownd derfynol yn derbyn Tlws (Menna Davies, er cof am ei rhieni, Meirion Lewis, cyn-brifathro Ysgol Gymraeg Ynys-wen, a Clarice Lewis, a'i chwaer Mair, a fagwyd yng Nghwm-parc, Y Rhondda) ynghyd â £100 yr un i bawb arall sy’n ymddangos yn y rownd derfynol (£300 Lowri Jones a Rhuanedd Richards)
Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rownd derfynol hefyd yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn yr un gan y cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan Merched y Wawr.
Caiff yr enillydd wahoddiad i fod yn aelod o’r Orsedd ynghyd â gwahoddiad i ymuno â Phanel Dysgwyr yr Eisteddfod
Beirniaid: Bethan Glyn, Cefin Campbell a Mark Morgan
Diolch i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am bob cefnogaeth, a'r cydweithio agos